
Tudalen Gartref CyswlltRhaglen Y Clwb Ffurflen Ymaelodi Lincs
Y Clwb
Ydych chi'n mynydda?
Ydych chi'n dringo?
Ydych chi'n crwydro?
Ydych chi'n aelod o GLWB MYNYDDA CYMRU?
CLWB MYNYDDA CYMRU . . . Yn hyrwyddo datblygiad mynydda yng Nghymru trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg
Mwynhau'r mynyddoedd . . . Cerdded ydi'r gweithgarwch awyr agored mwyaf poblogaidd yng Ngwledydd Prydain, ac mae'n dod yn fwy-fwy poblogaidd yma yng Nghymru. Mae mynydda a dringo hefyd yn ennill tir, a chynnydd sylweddol wedi bod ymhlith y Cymry Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Y ClwbMae Clwb Mynydda Cymru wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd hwnnw, wrth i amryw droi i'r mynyddoedd am adloniant a phleser. Yn ddiddadl mae crwydro mynyddoedd yng nghwmni cyfeillion sy'n rhannu'r un diddordeb â chwi yn ffordd ddiguro o ddod i adnabod Cymru'n well. Fel aelod o Glwb Mynydda Cymru mae cyfle i wneud hynny'n gyson.
Trefnir teithiau mynydda a chyfarfodydd dringo neu sgramblo'n gyson, yn Eryri ac mewn ardaloedd mynyddig eraill yma yng Nghymru, heb son am ymweliadau hwy i Loegr, Yr Alban, cyfandir Ewrop a thu hwnt.
Er mai Clwb ar gyfer Cymry Cymraeg ydi Clwb Mynydda Cymru, mae croeso cynnes hefyd i unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg. Mae teithiau'r Clwb yn gyfle delfrydol i ymarfer eich Cymraeg!
Mae manteision eraill o ymuno â'r Clwb . . .
* Bod yn aelod o rwydwaith o Gymry Cymraeg sy'n mynydda - cyfle i ddod o hyd i gwmni i gerdded neu bartner dringo.
* Disgownt mewn amryw o siopau mynydda.
* Cyfle i ddysgu sgiliau mynydda gyda aelodau mwy profiadol y Clwb.
* Cefnogaeth ariannol i ddilyn cyrsiau hyfforddi.
* Offer ar gael i'w logi
* Ymgyrchu dros ddiogelu'n ardaloedd mynyddig, a chadw'i harddwch.
* Cylchlythyr am weithgareddau'r Clwb.
* Cyfarfodydd cymdeithasol.
* Safle we gyda gwybodaeth am y Clwb.
* Tâl aelodaeth yn cynnwys aelodaeth o'r BMC.
Rhannwch y profiad . . .
CLWB MYNYDDA CYMRU . . .
Ymunwch â ni! Am fwy o fanylion gyrrwch e-bost i: ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Mae Clwb Mynydda Cymru yn cydnabod y gall dringo a mynydda arwain at anaf personol neu farwolaeth. Dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn fod yn ymwybodol o'r peryglon hyn a'u derbyn, a bod yn gyfrifol am eu gweithgareddau eu hunain.
Tudalen Gartref Cyswllt Rhaglen Y Clwb Ffurflen Ymaelodi Lincs